Cyngor Cyffredinol
Advice Now
Mae Advice Now yn wefan annibynnol ddielw sy’n darparu gwybodaeth gyfoes am hawliau a materion cyfreithiol.
Advice UK
Advice UK yw rhwydwaith mwyaf y DU o ran sefydliadau sy’n darparu cyngor.
Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth am eich hawliau, gan gynnwys budd-daliadau, tai, materion teuluol, cyflogaeth ac am faterion yn ymwneud â dyled, defnyddwyr a’r gyfraith.
Lloegr: 03444 111 444 Cymru: 03444 77 20 20 Defnyddwyr Cyfnewid Testun: 03444 111 445
Llinell Gyngor Liberty
I gael cyngor ynghylch materion yn ymwneud â hawliau dynol a sifil, gallwch ffonio’r llinell gymorth ac mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am eich hawliau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Rhif ffôn: 0845 123 2307 neu 020 3145 0461
Trosedd
Cymorth i Ddioddefwyr
Os ydych chi wedi dioddef trosedd, neu mae trosedd a gyflawnwyd yn erbyn rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi cael effaith arnoch chi, gall Cymorth i Ddioddefwyr eich helpu i ddelio â'ch profiad.
Llinell gymorth: 0808 1689 111
Dyled a Chyllid
Debt Advice Foundation
Gall Debt Advice Foundation roi cyngor cyfrinachol ynghylch eich problemau dyled am ddim dros y ffôn i chi.
Rhif ffôn: 0800 043 40 50.
Gwasanaeth Cynghori Ariannol
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn rhedeg Llinell Gymorth Ariannol ar 0300 500 5555
Llinell Dyled Genedlaethol
Gall y Llinell Dyled Genedlaethol roi cyngor a gwybodaeth ynghylch problemau dyled i chi.
Rhif ffôn: 0808 808 4000
StepChange Debt Charity
Gall Step Change roi cyngor cyfrinachol ynghylch problemau dyled am ddim i chi.
Rhif ffôn: 0800 138 1111
TaxAid
Yn darparu cymorth i’r rheini sy’n byw ar incwm isel ac nad oes modd i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi ddatrys eu problemau.
Rhif ffôn: 0345 120 3779
Iechyd ac Anabledd
Gwasanaeth Cyfraith Anabledd
Mae’r Gwasanaeth Cyfraith Anabledd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl ag anableddau a’u gofalwyr.
Llinell Cyngor Cyfreithiol Di-dâl: 0207 791 9800
Mind
Mae’r elusen Mind yn darparu gwybodaeth gyfreithiol a chyngor cyffredinol ynghylch cyfraith sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys galluedd meddyliol. gofal cymunedol, hawliau dynol a gwahaniaethu a chydraddoldeb o ran materion iechyd meddwl.
Llinell gymorth: 0300 123 3393
Mae llinell gyfreithiol Mind yn darparu gwybodaeth gyfreithiol a chyngor cyffredinol ynghylch cyfraith sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys galluedd meddyliol. gofal cymunedol, hawliau dynol a gwahaniaethu/cydraddoldeb o ran materion iechyd meddwl.
Cyfeiriad e-bost cyswllt: legal@mind.org.uk
Scope
Mae Scope yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl anabl. Mae gwasanaethau’r Llinell Gwybodaeth a Chyngor ynghylch Anabledd (DIAL) yn cael eu rhedeg gan bobl anabl ac ar eu cyfer.
Llinell gymorth am ddim: 0808 800 3333
Trais Domestig
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Trais Domestig
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Trais Domestig (NCDV) yn cynnig gwasanaeth gwaharddeb argyfwng yn gyflym ac am ddim i bobl sydd wedi goroesi trais domestig waeth beth fo’u hamgylchiadau ariannol, eu hil, eu rhyw neu eu cyfeiriadedd rhywiol.
0800 970 2070 / 0844 8044 999 / tecstiwch ‘NCDV’ i 60777
Argyfwng Trais Rhywiol
Dewch o hyd i’ch sefydliad Argyfwng Trais Rhywiol arbenigol agosaf gyda’r anodd chwilio ar y wefan.
Llinell Gymorth Argyfwng Trais Rhywiol: 0808 802 9999
Hawliau Merched
Llinell gymorth cyfraith teulu – 020 7251 6577 a llinell gymorth cyfraith trosedd – 020 7521 8887
Refuge a Chymorth i Ferched
Mae Refuge a Chymorth i Ferched yn rhedeg Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol Ddi-dâl: 0808 2000 247
Survivors UK
Mae Survivors UK yn cefnogi dynion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol
Llinell gymorth: 0845 122 1201
Cyflogaeth
Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
Mae ACAS yn darparu gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant, cymodiad a gwasanaethau eraill i gyflogwyr a chyflogeion er mwyn atal neu ddatrys problemau yn y gweithle.
0300 123 110
Public concern at work
Mae Public Concern yn elusen chwythu'r chwiban sy’n gallu cynnig cyngor i unigolion sydd â phenbleth o ran chwythu'r chwiban yn y gwaith.
0207 404 6609
Teulu
Both Parents Matter Cymru
Mae Both Parents Matter yn cynnal cyfarfodydd cefnogi misol a, law yn llaw â Law Works Cymru a chyfreithwyr lleol, mae’n rhedeg clinigau cyfreithiol am ddim ledled Cymru.
Llinell gymorth: 08456 004446.
Gingerbread
Mae Gingerbread yn cynnig cefnogaeth a chyngor arbenigol ynghylch amrywiaeth o faterion, gan gynnwys delio â diwedd perthynas, dychwelyd i’r gwaith a materion yn ymwneud â budd-daliadau neu gredyd treth.
Llinell gymorth: 0808 802 0925.
Hawliau Merched
Mae Hawliau Merched yn cynnig cyngor cyfreithiol diduedd am ddim i ferched yng Nghymru a Lloegr. Mae’r cyngor yn ymwneud â chyfraith teulu a chyfraith trosedd (er enghraifft, troseddau rhywiol gan gynnwys trais rhywiol ac ymosodiad rhywiol, trais domestig, aflonyddu, adrodd troseddau i’r heddlu, y system cyfiawnder troseddol, hawliau dioddefwyr, tystion a diffynyddion, ac iawndal am anafiadau troseddol).
Tai a Digartrefedd
Shelter Cymru
Gall Shelter Cymru gynnig cyngor ynghylch problemau tai brys os ydych chi’n byw yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnal cymorthfeydd ar draws Cymru.
Rhif ffôn: 0345 075 5005
Mewnfudo a Lloches
Asylum Advice UK
Mae Asylum Help yn darparu cyngor a chanllawiau cyfrinachol a diduedd i oedolion sy’n ceisio lloches a’u dibynyddion ledled y DU
Llinell gymorth: 0808 8010 503
Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Mewnfudo (ILPA)
Mae gan ILPA gyfeiriadur o’i haelodau ar ei gwefan. Gallwch chwilio drwyddo i ddod o hyd i gynghorydd mewnfudo yn eich ardal leol.
Cydgyngor Lles Mewnfudwyr
Mae Cydgyngor Lles Mewnfudwyr yn cynrychioli cleientiaid ar bob cam o’r broses gyfreithiol, o'r ceisiadau caniatáu mynediad i apeliadau ac adolygiadau barnwrol.
Canolfan Adnoddau Ymfudwyr
Mae’r Ganolfan Adnoddau Ymfudwyr yn darparu gwasanaeth cynghori ar gyfer ymfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.